Gwobr Gethyn Davies mewn Economeg

Archifau: Awards

Gwobr Gethyn Davies mewn Economeg

Darperir y Wobr hon er cof am yr Athro Gethyn Davies o incwm o rodd o £2,000 a roddwyd gan ei wraig a’i deulu. Cymhwyster Ymgeisydd blwyddyn olaf am radd y mae Economeg yn brif bwnc astudio ynddi Ymgeisydd sydd, ym marn yr arholwr allanol, wedi cyflawni’r safon uchaf mewn Economeg yn yr arholiadau a … more

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones

Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o Gronfa Goffa a godwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus er cof am Gareth Richard Vaughan Jones, oedd yn raddedig o’r Brifysgol, ac a laddwyd gan ysbeilwyr ym Mongolia Fewnol, ar 12 Awst, 1935.  Cymhwyster Graddedig o Brifysgol yng Nghymru Rhoddir blaenoriaeth i ymgeisydd sy’n nodi bwriad i ddilyn neu barhau … more

Ysgoloriaethau Dr Howell Rees – Ysgoloriaeth Feddygol

Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Gyffredinol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd. Cymhwyster Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg Brodorion o dde Cymru (gan gynnwys Sir Fynwy) Paratoi at raddau MB BCh yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol … more

Ysgoloriaethau Dr Howell Rees – Ysgoloriaeth Gyffredinol

Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Feddygol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd. Dyfernir yr ysgoloriaeth ar ganlyniadau Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad a gynhelir gan neu ar ran Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn … more

Ysgoloriaeth Goffa D Lloyd Thomas

Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o rodd a wnaed i Brifysgol Cymru ym mis Mehefin, 1989 gan deulu a chyfeillion y diweddar D Lloyd Thomas BSc PhD (Llundain), brodor o Faesteg, a raddiodd o’r Brifysgol ac a fu’n addysgu am gyfnod yng Ngholeg Imperial, Llundain. Bydd yr ysgoloriaeth ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth a … more

Gwobr Goffa D Afan Thomas am Gerddoriaeth

Gwaddolwyd y Wobr yn 1981 o Gronfa Ganmlwyddiant er cof am D Afan Thomas (1881-1928), Cerddor, Cyfansoddwr a Sefydlwr Cymdeithas Glee Afan yng Nghwmafan, Port Talbot. Diben y wobr yw rhoi cymorth ariannol i fyfyriwr cerddoriaeth addawol ddatblygu ei addysg gerddorol drwy astudiaethau pellach neu diwtora llawn amser neu ran amser mewn sefydliad a gydnabyddir … more

Ysgoloriaeth Plant Aber-fan

Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o rodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1968 gan Gymdeithas Gymraeg San Francisco er cof am y plant a laddwyd yn nhrychineb Aberfan yn 1966. Cymhwyster Person ifanc oed ysgol, yr oedd ei rieni’n byw yn Aberfan ar adeg y trychineb, neu os nad oes ymgeisydd cymwys, person … more

Efrydiaeth Ôlraddedig Llewelyn Williams

Darperir yr Efrydiaeth o incwm o Gronfa Ymddiriedolaeth Llewelyn Williams a godwyd gan gyfeillion y diweddar W Llewelyn Williams KC AS (1867-1922), ym mhroffesiwn y gyfraith yn bennaf, er cof amdano Cymhwyster Gradd yn y Celfyddydau neu’r Gyfraith o Brifysgol yng Nghymru Efrydiaeth ôl-raddedig ar gyfer ymchwil i Hanes Cymru (a ddehonglir i gynnwys cyfreithiau … more