Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Feddygol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd.

Dyfernir yr ysgoloriaeth ar ganlyniadau Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad a gynhelir gan neu ar ran Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn eu tro bob tair blynedd.

Eleni bydd yr ysgoloriaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr Prifysgol Caerdydd

 

Cymhwyster

  • Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
  • Bydd ymgeiswyr am yr ysgoloriaeth yn gymwys yn ôl y blaenoriaethau canlynol:
    a) Y rheini a anwyd yng Nghwmaman (yn Sir Gaerfyrddin) neu Frynaman neu Wauncaegurwen neu Gwm-gors;
    b) Y rheini yr oedd eu rhieni yn byw o fewn y ffiniau a ddiffinnir yn (i) ar adeg geni’r ymgeisydd;
  • Y rheini a anwyd yn Sir Gaerfyrddin
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i fatriciwleiddio yn y Sefydliad, ac ar adeg y dyfarnu, rhaid iddynt beidio â bod wedi dechrau ar gynllun astudio ar gyfer gradd yno.

 

 Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Yr ysgoloriaeth i’w dal am dair blynedd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac adroddiad boddhaol gan y sefydliad perthnasol

 

Dylid cyfeirio ymholiadau at Brifysgol Caerdydd

Rheoliadau Llawn

Ysgoloriaethau'r Dr Howell Rees Cyffredinol - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Cwmaman
Brynamman
Gwaun-cae-gurwen
Cwmgorse
Sir Gaerfyrddin
lle astudio
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Abertawe
pwnc
Amhenodol