Mae Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC yn gorff elusennol annibynnol ac nid yw’n ddarostyngedig i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Er hynny, mae’r Ymddiriedolaeth yn cynnal egwyddorion cyffredinol didwylledd a thryloywder a byddai’n ystyried unrhyw gais i ddatgelu gwybodaeth ar ei rinwedd ei hun, a phob amser ar ôl ystyried sefyllfa’r gwrthrych data (fel na fyddai data personol yn cael ei ddatgelu heb ganiatâd).