Gwaddolwyd y Wobr yn 1981 o Gronfa Ganmlwyddiant er cof am D Afan Thomas (1881-1928), Cerddor, Cyfansoddwr a Sefydlwr Cymdeithas Glee Afan yng Nghwmafan, Port Talbot. Diben y wobr yw rhoi cymorth ariannol i fyfyriwr cerddoriaeth addawol ddatblygu ei addysg gerddorol drwy astudiaethau pellach neu diwtora llawn amser neu ran amser mewn sefydliad a gydnabyddir gan UWRET.

 

Cymhwyster

  • Mae’r wobr ar gael i ymgeiswyr sydd o leiaf ddeunaw mlwydd oed ac a anwyd neu sydd wedi byw am o leiaf ddeng mlynedd yn un o’r ardaloedd daearyddol canlynol yn y drefn flaenoriaeth isod:
    a) Bwrdeistref Afan.
    b) Sir Gorllewin Morgannwg ar wahan i Fwrdeistref Afan.
    c) Unrhyw ran arall o Gymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Ar hyn o bryd gwerth yr Ysgoloriaeth yw £1,500, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Os ceir dau ymgeisydd cyfartal o Fwrdeistref Afan caiff y Wobr ei rhannu.
  • Yr ysgoloriaeth i’w dal am un flwyddyn yn y lle cyntaf, ond gellir ei hadnewyddu am un neu ddwy flynedd arall, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Mewn unrhyw gyfansoddiad a gyhoeddir dan y Rheoliadau hyn rhaid nodi’r glir bod y cyfryw gyhoeddiad wedi derbyn cymorth grant gan Wobr Goffa D Afan Thomas

Rheoliadau Llawn

Dyfarniad Coffa D Afan Thomas am Gerddoriaeth - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
math o ddyfarniad
Grant
rydych chi o
Afan
Gorllewin Morgannwg
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Cerddoriaeth