Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o rodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1968 gan Gymdeithas Gymraeg San Francisco er cof am y plant a laddwyd yn nhrychineb Aberfan yn 1966.
Cymhwyster
- Person ifanc oed ysgol, yr oedd ei rieni’n byw yn Aberfan ar adeg y trychineb, neu os nad oes ymgeisydd cymwys, person oed ysgol sy’n byw ym Merthyr Tudful.
- Yn y ddau achos uchod, bydd y drefn blaenoriaeth fel a ganlyn:
a) Ymgeiswyr sy’n dymuno mynd i Brifysgol Caerdydd fel myfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf
b) Ymgeiswyr sy’n dymuno mynd i unrhyw Brifysgol arall yng Nghymru fel myfyrwyr israddedig blwyddyn gyntaf.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwerth yr Ysgoloriaeth fydd tua £1,500 y flwyddyn, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Gellir rhannu’r swm hwn rhwng dau ymgeisydd cymwys neu fwy
- Yr Ysgoloriaeth i’w dal am hyd at dair blynedd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Aberfan
Merthyr Tudful
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Amhenodol