Mae Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC wedi cymryd pob cam posibl i sicrhau bod yr wybodaeth a ddarperir ar y wefan hon yn ddefnyddiol, yn gywir ac yn gyfredol. Fodd bynnag, nid yw’r wybodaeth ar y wefan hon yn gynhwysfawr a hoffem ymddiheuro os ceir unrhyw wallau anfwriadol. Wrth ddefnyddio’r safle neu unrhyw ddeunyddiau’r Ymddiriedolaeth sydd wedi’u hargraffu, os dewch ar draws yr hyn sy’n ymddangos yn wall, gofynnir i chi ein hysbysu ni cyn gynted â phosibl.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn cadw’r hawl i newid cynnwys y wefan heb rybudd. Nid yw’r Ymddiriedolaeth chwaith yn derbyn unrhyw atebolrwydd dros unrhyw golled neu ddifrod yn codi’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o gyrchu neu ddefnyddio’r wefan hon. Mae unrhyw benderfyniadau a wneir ar sail yr wybodaeth a geir ar y wefan hon yn gyfrifoldeb yr ymwelydd â’r wefan yn unig, ac nid yr Ymddiriedolaeth.