Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o rodd a wnaed i Brifysgol Cymru ym mis Mehefin, 1989 gan deulu a chyfeillion y diweddar D Lloyd Thomas BSc PhD (Llundain), brodor o Faesteg, a raddiodd o’r Brifysgol ac a fu’n addysgu am gyfnod yng Ngholeg Imperial, Llundain.
Bydd yr ysgoloriaeth ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe yn eu tro. Eleni dyfernir yr ysgoloriaeth i ddarpar ymgeiswyr a dderbyniwyd ar gynllun gradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe.
Cymhwyster
- Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
- Wedi’u derbyn ar gynllun gradd israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe yn eu tro.
- Gallu bodloni gofynion matriciwleiddio’r sefydliad perthnasol.
- Ganwyd, neu wedi byw yn sir Morgannwg Ganol. Rhoddir blaenoriaeth i unrhyw ymgeisydd o’r fath a anwyd, neu sydd wedi byw yn ardal Maesteg (yn ôl diffiniad Bwrdeistref Ogwr).
- Ni fydd myfyriwr sydd eisoes wedi dechrau ar gynllun astudio am radd yn y sefydliad yn gymwys am ddyfarniad
Gwybodaeth Ychwanegol
- Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Bydd modd adnewyddu’r ysgoloriaeth am ddwy flynedd arall, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac adroddiad boddhaol gan y sefydliad perthnasol
Dylid cyflwyno ceisiadau i Gofrestrydd Prifysgol Abertawe, heb fod yn hwyrach na 15 Medi.
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Maesteg
Morgannwg Ganol
lle astudio
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Abertawe
pwnc
Amhenodol