Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o Gronfa Goffa a godwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus er cof am Gareth Richard Vaughan Jones, oedd yn raddedig o’r Brifysgol, ac a laddwyd gan ysbeilwyr ym Mongolia Fewnol, ar 12 Awst, 1935.

 

Cymhwyster

  • Graddedig o Brifysgol yng Nghymru
  • Rhoddir blaenoriaeth i ymgeisydd sy’n nodi bwriad i ddilyn neu barhau â chynllun astudio i baratoi ar gyfer gwaith mewn newyddiaduraeth ym maes materion rhyngwladol neu ar gyfer mynd i wasanaethau’r Wladwriaeth neu wasanaethau eraill yn ymwneud â materion rhyngwladol.

 

 Gwybodaeth Ychwanegol

  • Amcan yr Ysgoloriaeth yw galluogi deiliaid i deithio mewn gwledydd tramor gyda golwg ar hwyluso eu hastudiaeth o gysylltiadau rhyngwladol. Ni fydd ymrwymiad i ddilyn cynllun astudio penodol yn gysylltiedig â dyfarnu’r Ysgoloriaeth.
  • Gwerth yr Ysgoloriaeth fydd tua £2,000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael a bydd yn daladwy mewn dwy ran
  • Ar ddiwedd ddeiliadaeth bydd y deiliad yr Ysgoloriaeth yn cyflwyno adroddiad am y gwaith

Ffurflen Gais

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones - Ffurflen Gais lawrlwytho
math o ddyfarniad
Teithio
rydych chi o
N/A
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Newyddiaduraeth
Cysylltiadau rhyngwladol