Darperir yr Efrydiaeth o incwm o Gronfa Ymddiriedolaeth Llewelyn Williams a godwyd gan gyfeillion y diweddar W Llewelyn Williams KC AS (1867-1922), ym mhroffesiwn y gyfraith yn bennaf, er cof amdano.

 

Cymhwyster

  • Gradd yn y Celfyddydau neu’r Gyfraith o Brifysgol yng Nghymru
  • Efrydiaeth ôl-raddedig ar gyfer ymchwil i Hanes Cymru (a ddehonglir i gynnwys cyfreithiau Cymru ac agweddau economaidd ar fywyd Cymru).
  • Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun ymchwil mewn Prifysgol yng Nghymru neu yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth Efrydiaeth y wladwriaeth, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • I’w dal am un flwyddyn academaidd o ddyddiad y dyfarniad a gellir ei hadnewyddu am ail flwyddyn, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Ym mhob blwyddyn bydd disgwyl i’r deiliad gyflwyno adroddiad ar gynnydd

Ffurflen Gais

Efrydiaeth Ôlraddedig Llewelyn Williams - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
Efrydiaeth Ôlraddedig Llewelyn Williams - Ffurflen Gais lawrlwytho
math o ddyfarniad
Ymchwil
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Astudiaethau Cymraeg
Cyfraith Cymru
Hanes Cymru
Y Gymraeg