Rydym yn ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei ddiogelu ac os byddwn yn gofyn i chi ddarparu gwybodaeth benodol y gellir eich adnabod chi drwyddi wrth ddefnyddio’r wefan hon, gallwch fod yn sicr y caiff ei defnyddio’n unol â’r datganiad preifatrwydd hwn yn unig.
Mae Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC yn gofrestredig dan Ddeddf Diogelu Data 1998 ac yn cydymffurfio â darpariaethau’r Ddeddf. Er mwyn i’r Ymddiriedolaeth asesu ceisiadau atgoffir ymgeiswyr y bydd angen storio a phrosesu’r wybodaeth y byddant yn ei hanfon at yr Ymddiriedolaeth. Caiff data ei ddal yn ddiogel a’i brosesu’n gyfreithlon, bydd yn gyfredol ac ni fydd yn cael ei gadw’n hirach nag sydd angen. Gellir defnyddio data hefyd i greu rhestrau a gyhoeddir o ddeiliaid dyfarniadau, a all fod ar gael ar y Rhyngrwyd ac yn ein Hadroddiad Blynyddol. Pennir y bydd ymgeisydd wedi rhoi caniatâd penodol i’r Ymddiriedolaeth brosesu’r data a anfonir atom yn y cais, yn unol â Deddf Diogelu Data 1998, naill ai drwy lofnodi’r ffurflen gais neu lofnodi llythyr cais am ysgoloriaeth, dyfarniad neu wobr.