Swyddi gwag i Ymddiriedolwyr

Swyddi gwag i Ymddiriedolwyr

Cyhoeddwyd an Equinox, 6 Gorffennaf 2018

Ar hyn o bryd mae 2 sedd wag ar gyfer penodi Cyfarwyddwyr CWMNI YMDDIRIEDOLWR UWRET CYFYNGEDIG, Ymddiriedolwr CRONFA GWADDOLION CYFYNGEDIG PC.

 

Statws Cyfreithiol

  • Mae Cwmni Ymddiriedolwr UWRET Cyfyngedig yn gwmni cyfyngedig drwy warant (Rhif 09430036).
  • Mae Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC yn ymddiriedolaeth elusennol gofrestredig (Rhif 1162374).

 

Sgiliau, profiad a disgwyliadau

  • Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig PC yw’r enw cyfreithiol ar yr ymddiriedolaeth elusennol a adwaenir yn gyhoeddus fel ‘Cronfa Gwaddol y Werin’ ac sy’n rheoli’r 52 o waddolion cyfyngedig a gymynroddwyd yn wreiddiol i Brifysgol Cymru.
  • Swyddogaeth y cwmni ymddiriedolwr yw goruchwylio rheolaeth gynaliadwy’r cronfeydd hyn a fuddsoddwyd a dosbarthu enillion dosbarthadwy’n gyson â dymuniadau’r cymwynaswr a thelerau pob cymynrodd.
  • Rydym ni’n awyddus i gryfhau Bwrdd yr Ymddiriedolwyr a’r blaenoriaethau cyntaf yw sicrhau rhagor o brofiad rheoli cyllid/busnes, cyfraith elusen, materion myfyrwyr a’r sector addysg bellach yng Nghymru.

 

Mae cyfrifoldebau allweddol stiwardiaeth yn cynnwys

  • Sicrhau bod yr elusen yn gweithredu o fewn, ac yn bodloni, ei diben(ion) elusennol
  • Craffu cynlluniau ar gyfer rheoli Cronfa Gwaddol y Werin a’i gwaddolion cyfyngedig yn gynaliadwy.
  • Sicrhau bod enillion dosbarthadwy’n cael eu cymhwyso’n deg ac yn unol â gofynion unrhyw waddol penodol.
  • Goruchwylio llywodraethu a phenderfyniadau effeithiol.

 

Yr ymrwymiad a geisir

  • Mynychu 4 cyfarfod (hanner diwrnod) bob blwyddyn a pharatoi ar eu cyfer.
  • Cynhelir y cyfarfodydd yn ystod y dydd (y bore fel arfer) ac yn bennaf yng Nghaerdydd – ond cynhelir cyfarfodydd ar draws Cymru.
  • Bydd y penodiadau am gyfnod cychwynnol o dair blynedd, a gellir eu hestyn drwy gytundeb.

Cydnabyddiaeth

  • Nid oes tâl, ond telir treuliau teithio a threuliau rhesymol eraill. Bydd angen cytuno unrhyw dreuliau sylweddol (>£100) o flaen llaw. Rhaid cyflwyno derbynneb briodol (neu gyfatebol) i gefnogi hawliadau am dreuliau.

 

Dyddiad cau

  • [Amherthnasol]

 

 

Ceir rhagor o wybodaeth am ein Diben, y Gwaddolion Cyfyngedig a manylion yr Ymddiriedolwyr Cyfredol ar wefan Y Werin:

 

Neu gallwch gysylltu â’r unigolyn isod:

Carys Dineen

Prifysgol Cymru

Rhodfa’r Brenin Edward V11

Parc Cathays

Caerdydd

CF10 5NS

enquiries@ywerinlegacyfund.wales

 

Yn ôl i Newyddion