Codwyd y Gronfa drwy danysgrifiad cyhoeddus a’i throsglwyddo i Brifysgol Cymru fel Ymddiriedolwr er cof am y diweddar Thomas Edward Ellis MA, Warden Urdd y Graddedigion (1896-1899), ac Aelod Seneddol yn cynrychioli Meirionnydd yn ystod y blynyddoedd 1886-1899.
Cymhwyster
- Ymgymryd ag ymchwil a chyhoeddi am iaith, llenyddiaeth, hanes a hynafiaethau Cymru a Sir Fynwy a chyhoeddi canlyniadau’r cyfryw ymchwil
- Gorau oll os bydd y sawl sy’n derbyn grant yn aelod o Brifysgol yng Nghymru ond nid yw hynny’n rheidrwydd
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd unigolion sy’n derbyn grant cymorth ar gyfer cyhoeddi unrhyw waith yn cynnwys cydnabyddiaeth o’u dyled i Gronfa Goffa Thomas Ellis.
math o ddyfarniad
Grant Cyhoeddi
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Astudiaethau Cymraeg
Hanes Cymru
Llenyddiaeth Cymru
Y Gymraeg