Mae’r gronfa hon yn cynnwys incwm blynyddol o tua £3,000 yn deillio o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Thomas Alwyn Lloyd LLD FRIBA. Diben yr Ysgoloriaeth yw galluogi’r deiliad i barhau i astudio Pensaernïaeth drwy deithio.
Cymhwyster
- Dyfernir yr Ysgoloriaeth ar argymhelliad Ysgol Pensaernïaeth Cymru, ar sail cyflawniad yn yr arholiad terfynol ar gyfer gradd BSc mewn Astudiaethau Pensaernïol
- Rhaid i ymgeiswyr feddu ar radd BSc mewn Astudiaethau Pensaernïol.
Gwybodaeth Ychwanegol
- Rhaid i’r deiliad ddefnyddio’r Ysgoloriaeth, a all fod werth hyd at £2,500, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, yn ystod y cwrs gradd MArch
- Telir 75% o werth yr Ysgoloriaeth o flaen llaw, gyda’r 25% arall yn cael ei dalu ar ôl i’r deiliad gyflwyno adroddiad boddhaol
- Gellir dyfarnu mwy nag un Ysgoloriaeth o incwm y gronfa bob blwyddyn
- O fewn tri mis i gymhwyso am radd MArch, rhaid i’r deiliad gyflwyno adroddiad mewn ffurf addas i’w gyhoeddi
- Rhaid i bob cyhoeddiad sy’n adrodd am ganlyniadau astudiaethau’r deiliad nodi’n glir yr hwyluswyd y gwaith gan Ysgoloriaeth Deithio Goffa T Alwyn Lloyd
Ceir rhagor o wybodaeth am yr Ysgoloriaeth gan yr Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Caerdydd
math o ddyfarniad
Teithio
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Prifysgol Caerdydd
pwnc
Pensaernïaeth