Dyfernir y Wobr o Gronfa a godwyd yn bennaf yn Sir Fôn a Llundain er cof am y diweddar Gwir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis Griffith MA KC PC (1860-1926), cyn Aelod Seneddol yn cynrychioli Sir Fôn.

 

Cymhwyster

  • Gwaith sydd wedi’i gyhoeddi o fewn y tair blwyddyn galendr flaenorol
  • Dyfernir i unigolyn (ar wahân i unrhyw un sydd wedi derbyn y Wobr yn flaenorol) sydd, ym marn y tri beirniad a benodir, wedi cynhyrchu’r gwaith gorau yn Gymraeg ar awduron sy’n ysgrifennu yn Gymraeg, neu ar eu gwaith neu ar artistiaid Cymreig neu grefftwyr Cymreig, neu ar eu gwaith.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Bydd y Wobr yn cynnwys llyfrau werth tua £50, ynghyd â gwobr ariannol werth tua £110, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Os yw’r beirniaid yn adrodd nad oes safon resymol o deilyngdod wedi’i chyflawni, caiff y Wobr ei dal yn ôl ac ychwanegir incwm y flwyddyn at y gronfa cyfalaf.

Rheoliadau Llawn

Gwobr Goffa Ellis Griffith - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
math o ddyfarniad
Gwobr
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Llenyddiaeth Cymru