Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn cynnwys Ysgoloriaethau Mynediad Price Davies) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
Cymhwyster
- Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd ôl-raddedig yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Bangor.
- Yr ymgeisydd sydd, ym marn Senedd Prifysgol Bangor, fwyaf teilwng ar sail perfformiad yn yr arholiadau gradd
Gwybodaeth Ychwanegol
- Bydd gwerth yr ysgoloriaeth yr un fath ag Efrydiaeth Ôl-raddedig y Brifysgol, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
- Yr ysgoloriaethau i’w dal am un flwyddyn academaidd o ddyddiad y dyfarniad ond gellir eu hadnewyddu am ail a thrydedd flwyddyn academaidd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
Dylid cyflwyno ceisiadau i Gofrestrydd Prifysgol Bangor erbyn 31 Awst ar yr hwyraf.
math o ddyfarniad
Ôl-raddedig
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Prifysgol Bangor
pwnc
Gwyddoniaeth
Y Celfyddydau