Darperir Ysgoloriaethau Price Davies (sydd hefyd yn cynnwys Ysgoloriaethau Ôl-raddedig Price Davies) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru yn 1900 gan y diweddar Mr Price Davies o Leeds.
Cymhwyster
- Rhaid i’r ymgeisydd ddilyn cynllun astudio am radd gyntaf yn y Celfyddydau neu’r Gwyddorau ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Seiliedig ar ganlyniadau’r Arholiad Ysgoloriaethau Mynediad ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Dyfernir yr ysgoloriaeth ar yr amod bod ymgeisydd llwyddiannus yn cymhwyso i fatriciwleiddio yn y sefydliad
- Ni fydd myfyriwr sydd eisoes wedi dechrau ar gynllun astudio am radd yn y Sefydliad yn gymwys i ymgeisio
Gwybodaeth Ychwanegol
- Cynigir tair ysgoloriaeth, gyda phob un werth £400 y flwyddyn, yn gystadleuol bob blwyddyn yn amodol ar y cyllid sydd ar gael.
- Yr ysgoloriaethau i’w dal am dair blynedd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac adroddiad boddhaol gan y sefydliad perthnasol
- Posibilrwydd i’w hadnewyddu ar gyfer pedwaredd flwyddyn
Dylid cyflwyno ceisiadau am fanylion yr arholiad, a sefyll yr arholiad, i Gofrestrydd Prifysgol Aberystwyth.
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Prifysgol Aberystwyth
pwnc
Gwyddoniaeth
Celfyddydau