Gwaddolwyd y Wobr ym mis Rhagfyr 1923, gan yr Athro Syr Ewen J Maclean MD, er cof am ei dad, y diweddar John Maclean, Kilmoluag, Tiree, a Mount Hill, Caerfyrddin.
Cymhwyster
- Ymgeisydd am raddau Baglor mewn Meddygaeth a Baglor mewn Llawfeddygaeth yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
- Wedi dilyn cwrs astudio mewn Bydwreigiaeth a Gynaecoleg a gymeradwywyd yn rhan o’r cynllun cymhwyso ar gyfer y graddau hynny
- Ymgeisydd sydd, ym marn UWRET, wedi amlygu’r medr gorau ynddo
Gwybodaeth ychwanegol
- Bydd UWRET yn cymryd i ystyriaeth adroddiad yr arholwr allanol ar gyraeddiadau’r ymgeiswyr yn yr arholiad ac adroddiad gan yr Athro Obstetreg a Gynaecoleg
- Os na fydd yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cwblhau’r cymhwyster ar gyfer graddau Baglor mewn Meddygaeth a Baglor mewn Llawfeddygaeth, caiff cyhoeddiad a chyflwyniad y Wobr eu gohirio nes bod yr ymgeisydd wedi cwblhau’r cymhwyster.
- Medal oedd y wobr yn wreiddiol, ond dyfernir swm o arian parod yn lle erbyn hyn
- Dyfernir yn flynyddol ar werth sydd o ddeutu £100, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
Dylid cyfeirio ymholiadau i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd
math o ddyfarniad
Gwobr
rydych chi o
Amhenodol
lle astudio
Prifysgol Caerdydd
pwnc
Meddygol