Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Feddygol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd.

Dyfernir yr ysgoloriaeth ar ganlyniadau Arholiadau Ysgoloriaethau Mynediad a gynhelir gan neu ar ran Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe yn eu tro bob tair blynedd.

Eleni bydd yr ysgoloriaeth ar gael i ddarpar ymgeiswyr Prifysgol Aberystwyth

Cymhwyster

  • Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
  • Bydd ymgeiswyr am yr ysgoloriaeth yn gymwys yn ôl y blaenoriaethau canlynol:
    a) Y rheini a anwyd yng Nghwmaman (yn Sir Gaerfyrddin) neu Frynaman neu Wauncaegurwen neu Gwm-gors;
    b) Y rheini yr oedd eu rhieni yn byw o fewn y ffiniau a ddiffinnir yn (i) ar adeg geni’r ymgeisydd;
  • Y rheini a anwyd yn Sir Gaerfyrddin
  • Rhaid i ymgeiswyr fod yn gymwys i fatriciwleiddio yn y Sefydliad, ac ar adeg y dyfarnu, rhaid iddynt beidio â bod wedi dechrau ar gynllun astudio ar gyfer gradd yno.

 Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Yr ysgoloriaeth i’w dal am dair blynedd, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac adroddiad boddhaol gan y sefydliad perthnasol

 Dylid cyfeirio ymholiadau at Gofrestrydd Prifysgol Aberystwyth

Mae’r rheoliadau llawn i’w gweld yma