Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o Gronfa Goffa a godwyd drwy danysgrifiad cyhoeddus i goffáu’r Capten Geoffrey Crawshay LLD. Dyfernir yr ysgoloriaeth yn gyfnodol i alluogi’r ymgeisydd llwyddiannus i deithio ym Mhrydain neu dramor gyda’r bwriad o ehangu a chyfoethogi ei brofiad esthetig mewn cangen o’r Celfyddydau Cain.

 

Cymhwyster

  • Ystyrir ceisiadau gan yr unigolion canlynol:
    a) ymgeiswyr sydd wedi astudio am o leiaf ddwy flynedd mewn Prifysgol yng Nghymru;
    b) ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod wedi’u geni yng Nghymru, bod eu rhieni’n Gymry neu iddynt gael eu haddysgu yng Nghymru, ac sydd wedi astudio am o leiaf ddwy flynedd yn y Coleg Celf Brenhinol, Ysgol Gelf Slade, y Coleg Cerdd Brenhinol, yr Academi Gerdd Frenhinol, Academi Frenhinol y Celfyddydau Dramatig neu unrhyw sefydliadau eraill y gall UWRET eu cymeradwyo at ddiben y rheoliadau hyn;
    c) ymgeiswyr sydd wedi astudio unrhyw rai o’r pynciau a enwir yn Rheoliad 3 am o leiaf ddwy flynedd mewn Coleg neu Ysgol Gelf neu Gerddoriaeth neu Ddrama neu Bensaernïaeth yng Nghymru a gymeradwyir gan UWRET at ddiben y rheoliadau hyn.
  • Ni ddylid defnyddio’r dyfarniad ar gyfer astudio ar gyfer radd neu ddiploma ond yn hytrach ar gyfer annog ymarfer celfyddydol a meithrin gwerthfawrogiad o gelf
  • Rhoddir blaenoriaeth i ymgeisydd sy’n dangos gallu rhagorol yn un o’r Celfyddydau
  • Ni chaiff y Celfyddydau Cain eu diffinio’n fanwl, ond byddant yn cynnwys Cerddoriaeth, Drama, Paentio, Cerflunwaith a Phensaernïaeth.

 

 Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth yr Ysgoloriaeth fydd tua £1,500, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael a bydd yn daladwy mewn dwy ran.
  • Bydd disgwyl i ddeiliaid yr ysgoloriaeth gyflwyno adroddiad byr ar ddiwedd y ddeiliadaeth ynghylch y defnydd a wnaed ohoni.
  • Telir 75% o werth yr Ysgoloriaeth o flaen llaw, gyda’r 25% arall yn daladwy ar ôl cyflwyno adroddiad boddhaol
  • Yn ystod deiliadaeth yr ysgoloriaeth hon, oni bai fod caniatâd arbennig yn cael ei roi, ni chaiff unrhyw ddeiliad ddal unrhyw ysgoloriaeth neu daliad tebyg arall yn gysylltiedig ag unrhyw brifysgol, coleg neu gronfa gyhoeddus arall

Ffurflen Gais

Ysgoloriaeth Deithio Goffa Geoffrey Crawshay - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
Ysgoloriaeth Deithio Goffa Geoffrey Crawshay - Ffurflen Gais lawrlwytho
math o ddyfarniad
Teithio
rydych chi o
Cymru
lle astudio
Amhenodol
pwnc
Celfyddyd Gain
Cerddoriaeth
Pensaernïaeth