Darperir yr Ysgoloriaethau hyn (sydd hefyd yn ymgorffori Ysgoloriaeth Gyffredinol Dr Howell Rees) o incwm o gymynrodd a wnaed i Brifysgol Cymru gan y diweddar Howell Rees CBE MRCS LRCP (1847-1933) o Gaerdydd.

 

Cymhwyster

  • Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
  • Brodorion o dde Cymru (gan gynnwys Sir Fynwy)
  • Paratoi at raddau MB BCh yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ystod y tair blynedd yn union ar ôl cwblhau dwy flynedd gyntaf y rhaglen bum mlynedd
  • Dyfernir ar ganlyniadau arholiadau’r Brifysgol a gynhelir ym mlwyddyn 1 a 2 yn y meysydd pwnc sy’n ymwneud ag astudiaethau anatomegol a ffisiolegol

 

 Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Yr ysgoloriaeth i’w dal o flwyddyn i flwyddyn yn amodol ar dderbyn adroddiad boddhaol gan y sefydliad, ac yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael

 

Dylid cyfeirio ymholiadau at Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd

Rheoliadau Llawn

Ysoloriaethau'r Dr Howell Rees - Meddygaeth - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
math o ddyfarniad
Meddygol
rydych chi o
De Cymru (yn cynnwys Sir Fynwy)
lle astudio
Prifysgol Caerdydd
pwnc
Meddygol