Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o rodd a wnaed i Brifysgol Cymru ym mis Mehefin, 1989 gan deulu a chyfeillion y diweddar D Lloyd Thomas BSc PhD (Llundain), brodor o Faesteg, a raddiodd o’r Brifysgol ac a fu’n addysgu am gyfnod yng Ngholeg Imperial, Llundain.

Bydd yr ysgoloriaeth ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe yn eu tro. Eleni dyfernir yr ysgoloriaeth i ddarpar ymgeiswyr a dderbyniwyd ar gynllun gradd israddedig ym Mhrifysgol Abertawe.

 

Cymhwyster

  • Ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg
  • Wedi’u derbyn ar gynllun gradd israddedig ym Mhrifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe yn eu tro.
  • Gallu bodloni gofynion matriciwleiddio’r sefydliad perthnasol.
  • Ganwyd, neu wedi byw yn sir Morgannwg Ganol. Rhoddir blaenoriaeth i unrhyw ymgeisydd o’r fath a anwyd, neu sydd wedi byw yn ardal Maesteg (yn ôl diffiniad Bwrdeistref Ogwr).
  • Ni fydd myfyriwr sydd eisoes wedi dechrau ar gynllun astudio am radd yn y sefydliad yn gymwys am ddyfarniad

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth tua £1000, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Bydd modd adnewyddu’r ysgoloriaeth am ddwy flynedd arall, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael ac adroddiad boddhaol gan y sefydliad perthnasol

 

Dylid cyflwyno ceisiadau i Gofrestrydd Prifysgol Abertawe, heb fod yn hwyrach na 15 Medi.

Rheoliadau Llawn

Ysgoloriaeth Goffa D Lloyd Thomas - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Maesteg
Morgannwg Ganol
lle astudio
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Abertawe
pwnc
Amhenodol