Darperir yr ysgoloriaeth hon o incwm o roddion a wnaed i Brifysgol Cymru ym mis Hydref 1934, a mis Ionawr 1949, gan y ddiweddar Miss Ethel M Hovey, o Fae Colwyn.

 

Cymhwyster

  • Rhaid i’r ymgeiswyr fod yn fenywaidd
  • Disgybl mewn ysgol uwchradd y wladwriaeth neu breifat neu ysgolion mewn unrhyw leoliad yn hen siroedd Caernarfon a Dinbych
  • Rhoddir blaenoriaeth i’r cyfryw ferched sydd wedi derbyn eu haddysg uwchradd, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, mewn ysgol yn yr ardal bwrdeistref gyfredol Bae Colwyn neu’r plwyfi gwledig cyfagos.
  • I’w dal ym Mhrifysgol Bangor
  • Fe’i dyfernir ar argymhelliad Prifysgol Bangor. Bydd yr argymhelliad yn seiliedig ar Arholiad Ysgoloriaethau Mynediad y Sefydliad.
  • Bydd deiliad yr ysgoloriaeth yn byw mewn Neuadd Breswyl yn y Sefydliad i ddechrau

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  • Gwerth yr Ysgoloriaeth fydd tua £1,500, yn amodol ar y cyllid sydd ar gael
  • Yr ysgoloriaeth i’w dal am gyfnod o un flwyddyn yn y lle cyntaf, ond gellir ei hadnewyddu am ail a thrydedd flwyddyn, yn gymesur ac yn amodol ar y cyllid sydd ar gael

 

Ceir rhagor o wybodaeth am yr Arholiad Ysgoloriaethau Mynediad blynyddol gan Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol Bangor

Rheoliadau Llawn

Ysgoloriaeth Goffa Rosa Hovey - Rheoliadau Llawn lawrlwytho
math o ddyfarniad
Mynediad
rydych chi o
Sir Gaernarfon
Sir Ddinbych
Colwyn
lle astudio
Prifysgol Bangor
pwnc
Amhenodol